3 Felly dyma'r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.”
4 Ond roedd Rahab wedi cuddio'r dynion, a dyma hi'n ateb, “Mae'n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw'n dod.
5 Pan oedd hi'n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw'n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!”
6 (Ond beth roedd Rahab wedi ei wneud go iawn oedd mynd â'r dynion i ben to'r tŷ, a'i cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi eu gosod allan yno.)
7 Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy'n arwain at yr Afon Iorddonen, lle mae'r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd.
8 Cyn i'r ysbiwyr fynd i gysgu'r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i'r to i siarad gyda nhw.
9 Meddai wrthyn nhw, “Dw i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau.