1 Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd,
2 a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd.
3 Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi.
4 Bellach mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i'r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.