21 Dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud,
22 “Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e'n gwybod beth ydy'r gwir, a rhaid i bobl Israel wybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw!
23 “Wnaethon ni ddim codi'r allor i ni'n hunain gyda'r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni'n dweud celwydd!
24 Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â'r ARGLWYDD, Duw Israel?
25 Mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Afon Iorddonen yn ffin glir rhyngon ni â chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli'r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli'r ARGLWYDD.
26 Felly dyma ni'n penderfynu codi'r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni,
27 ond i'n hatgoffa ni a chi, a'n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy'r lle i ni fynd i addoli'r ARGLWYDD, a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â'r ARGLWYDD.’