5 “Ond cofiwch gadw'r rheolau a'r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e'n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i'w addoli â'ch holl galon!”
6 Dyma Josua yn eu bendithio nhw, a'u hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd am adre.
7 (Roedd Moses wedi rhoi tir yn Bashan i hanner llwyth Manasse, a tir i'r gorllewin o Afon Iorddonen i'r hanner arall, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe'n eu bendithio nhw:
8 “Ewch adre, a rhannu gyda'ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi ei gymryd gan eich gelynion! – lot fawr o anifeiliaid, arian, aur, pres, haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.”
9 Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a troi am adre i'w tir eu hunain yn Gilead – sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw trwy Moses.
10 Ond pan oedden nhw'n dal ar ochr Canaan i'r Iorddonen dyma nhw'n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon.
11 Pan glywodd gweddill pobl Israel am y peth,