11 Gwyliwch eich hunain! Carwch yr ARGLWYDD eich Duw!
12 Os byddwch chi'n troi cefn arno, ac yn cymysgu gyda'r bobloedd yma sydd yn dal gyda chi – priodi eu merched nhw, a gadael iddyn nhw briodi eich merched chi –
13 gallwch fod yn siŵr y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei rhoi i chi.
14 “Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.
15 Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr ARGLWYDD yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.
16 Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr ARGLWYDD yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.”