3 Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr ARGLWYDD eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi.
4 Dw i wedi rhannu rhwng eich llwythau dir y bobl hynny sydd ddim eto wedi eu concro yn ogystal â'r rhai dw i wedi eu dinistrio – sef yr holl dir sydd rhwng yr Afon Iorddonen a Môr y Canoldir.
5 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r rhai sydd ar ôl, a byddwch chi'n byw yn y tir yn eu lle nhw, fel mae'r ARGLWYDD wedi addo i chi.
6 “Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn sgrôl cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.
7 A peidiwch cael dim i'w wneud â'r bobloedd sydd ar ôl gyda chi. Peidiwch galw ar eu duwiau nhw na tyngu llw i'r duwiau hynny. Peidiwch addoli nhw na gweddïo arnyn nhw.
8 Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw.
9 Mae'r ARGLWYDD wedi gyrru gwledydd mawr cryfion allan o'ch blaen chi. Does neb wedi gallu'ch rhwystro chi hyd yn hyn.