8 Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw.
9 Mae'r ARGLWYDD wedi gyrru gwledydd mawr cryfion allan o'ch blaen chi. Does neb wedi gallu'ch rhwystro chi hyd yn hyn.
10 Mae un ohonoch chi yn ddigon i wneud i fil ohonyn nhw ffoi, am fod yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch chi, fel gwnaeth e addo.
11 Gwyliwch eich hunain! Carwch yr ARGLWYDD eich Duw!
12 Os byddwch chi'n troi cefn arno, ac yn cymysgu gyda'r bobloedd yma sydd yn dal gyda chi – priodi eu merched nhw, a gadael iddyn nhw briodi eich merched chi –
13 gallwch fod yn siŵr y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei rhoi i chi.
14 “Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.