18 Yr ARGLWYDD wnaeth yrru'r bobloedd i gyd allan o'n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli'r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.”
19 Yna dyma Josua yn rhybuddio'r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli'r ARGLWYDD. Mae e'n Dduw sanctaidd. Mae e'n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a pechu yn ei erbyn.
20 Mae e wedi bod mor dda atoch chi! Os byddwch chi'n troi cefn arno ac yn addoli duwiau eraill, bydd e'n troi yn eich erbyn chi, yn achosi trychineb ac yn eich dinistrio chi!”
21 Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Na! Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD!”
22 Felly dyma Josua yn gofyn i'r bobl, “Ydych chi'n derbyn eich bod chi'n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli'r ARGLWYDD?” A dyma nhw'n dweud, “Ydyn, dŷn ni'n atebol.”
23 “Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, Duw Israel.”
24 A dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD ein Duw, a gwrando arno.”