25 Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb gyda'r bobl, a gosod rheolau a canllawiau iddyn nhw yn Sichem.
26 A dyma fe'n ysgrifennu'r cwbl yn Sgrôl Cyfraith Duw.Wedyn dyma fe'n cymryd carreg fawr, a'i gosod i fyny o dan y goeden dderwen oedd wrth ymyl cysegr yr ARGLWYDD.
27 A dyma fe'n dweud wrth y bobl, “Mae'r garreg yma wedi clywed popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.”
28 Yna dyma Josua yn gadael i'r bobl fynd, a dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w tir eu hunain.
29 Yn fuan wedyn, dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD yn marw. Roedd yn gant a deg mlwydd oed.
30 Dyma nhw'n ei gladdu ar ei dir ei hun yn Timnath-serach ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash.
31 Tra roedd Josua'n fyw roedd pobl Israel yn addoli'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel.