30 Dyma nhw'n ei gladdu ar ei dir ei hun yn Timnath-serach ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash.
31 Tra roedd Josua'n fyw roedd pobl Israel yn addoli'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel.
32 Roedd pobl Israel wedi cario esgyrn Joseff o'r Aifft, a dyma nhw'n eu claddu yn Sichem, ar y darn o dir roedd Jacob wedi ei brynu am gant o ddarnau arian gan feibion Hamor, tad Sichem. Roedd y tir hwnnw yn rhan o diriogaeth disgynyddion Joseff.
33 Pan fuodd Eleasar fab Aaron farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Gibea ym mryniau Effraim, ar y tir oedd wedi cael ei roi i'w fab Phineas.