6 Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft dyma nhw'n cyrraedd y môr, ac roedd marchogion a cherbydau rhyfel yr Eifftiaid wedi dod ar eu holau. Wrth y Môr Coch
7 dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fi'n rhoi tywyllwch rhyngoch chi a nhw, ac yn eu boddi nhw yn y môr. Gwelsoch gyda'ch llygaid eich hunain beth wnes i i'r Aifft.Wedyn buoch chi'n byw yn yr anialwch am flynyddoedd lawer.
8 Yna dyma fi'n dod â chi i dir yr Amoriaid, sef y bobl oedd yn byw i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Dyma nhw'n ymladd yn eich erbyn chi, ond dyma fi'n eu dinistrio nhw'n llwyr o'ch blaenau chi. Chi gafodd ennill y frwydr, a concro eu tir nhw.
9 Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, yn paratoi i ymosod ar Israel, ac wedi cael Balaam fab Beor i'ch melltithio chi.
10 Ond wnes i ddim gwrando ar Balaam. Yn lle hynny dyma fe'n proffwydo pethau da amdanoch chi dro ar ôl tro! Fi wnaeth eich achub chi oddi wrtho.
11 Wedyn, ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen dyma chi'n dod i Jericho. Daeth arweinwyr Jericho i ymladd yn eich erbyn chi, a'r Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebwsiaid hefyd, ond dyma fi'n gwneud i chi ennill.
12 Dyma fi'n achosi panig llwyr, a gyrru dau frenin yr Amoriaid allan o'ch blaen chi. Fi wnaeth ennill y frwydr i chi, nid eich arfau rhyfel chi.