4 Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.”
5 A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”
6 Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.
7 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i'n mynd i dy wneud di'n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fy mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses.
8 “Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddowch chi at lan Afon Iorddonen, cerddwch i mewn i'r dŵr a sefyll yno.’”
9 Felly dyma Josua yn galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud!
10 Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid.