10 Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely'r Afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Josua wedi ei gyflawni. Yn y cyfamser roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.
11 Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn ei gwylio.
12 Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.
13 Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho.
14 Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.
15 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua,
16 “Dywed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”