2 “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth.
3 Dywed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely'r afon, o'r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â'r cerrig, a'i gosod nhw i lawr lle byddwch chi'n gwersylla heno.”
4 Dyma Josua'n galw'r dynion oedd wedi eu penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth),
5 a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – bydd un garreg ar gyfer pob llwyth.
6 Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’,
7 gallwch ddweud wrthyn nhw fod yr Afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”
8 Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol yr Afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth.) A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.