3 A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef "Bryn y blaengrwyn").
4 Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch.
5 Roedd y dynion hynny wedi eu henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith trwy'r anialwch ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
6 Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o'r Aifft i gyd wedi marw – y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw – y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo.
7 A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw'r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch.
8 Ar ôl i'r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw'n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella.
9 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy'r enw ar y lle hyd heddiw.)