14 Dyma nhw'n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna mynd yn ôl i'r gwersyll. A dyma nhw'n gwneud yr un peth am chwe diwrnod.
15 Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw'n codi gyda'r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o'r blaen – ond y tro yma dyma nhw'n mynd o'i chwmpas hi saith gwaith.
16 Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi!
17 Mae'r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio'n llwyr, fel offrwm i'r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a'r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio'r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon.
18 A gwyliwch nad ydych chi'n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy.
19 Yr ARGLWYDD sydd piau popeth wedi ei wneud o arian neu aur, pres neu haearn. Mae'r pethau hynny i gyd i'w cadw yn stordy'r ARGLWYDD.”
20 Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio dyma nhw'n gweiddi'n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma'r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro.