23 Felly dyma'r ysbiwyr ifanc yn mynd i nôl Rahab, a'i thad a'i mam, ei brodyr, a phawb arall o'r theulu. Dyma nhw'n mynd â hi a'i theulu i gyd i le saff tu allan i wersyll Israel.
24 Roedden nhw wedi llosgi'r ddinas a phopeth oedd ynddi, heblaw am y pethau aur ac arian, pres a haearn gafodd eu rhoi yn stordy tŷ'r ARGLWYDD.
25 Ond roedd Josua wedi gadael i Rahab y butain fyw, a theulu ei thad a phawb arall oedd yn perthyn iddi. Mae ei theulu hi'n dal i fyw yn Israel hyd heddiw, am ei bod hi wedi cuddio'r dynion roedd Josua wedi eu hanfon i ysbïo ar Jericho.
26 Pan gafodd dinas Jericho ei dinistrio roedd Josua wedi tyngu ar lw: “Bydd pwy bynnag sy'n ceisio ailadeiladu dinas Jericho yn cael ei felltithio gan yr ARGLWYDD. Bydd ei fab hynaf yn marw pan fydd e'n gosod y sylfaeni, a'i fab ifancaf yn marw pan fydd e'n rhoi'r giatiau yn eu lle!”
27 Roedd yr ARGLWYDD gyda Josua, ac roedd parch mawr ato drwy'r wlad i gyd.