6 Felly dyma Josua fab Nwn yn galw'r offeiriaid ato, ac yn dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o'i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.”
7 A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.”
8 Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma'r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn.
9 Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
10 Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi – wedyn cewch weiddi nerth eich pen!”
11 Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith. Yna mynd yn ôl i'r gwersyll ac aros yno dros nos.
12 Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad.