1 Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel.
2 Dyma Josua'n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i'r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen).
3 Pan ddaeth y dynion yn ôl dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.”
4 Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi.
5 Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau'r dref i'r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Gwnaeth hyn i bobl Israel golli pob hyder.
6 Dyma Josua yn rhwygo ei ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau.