17 Yna dyma fe'n gwneud i glaniau Jwda ddod ymlaen yn eu tro. Clan Serach gafodd ei ddewis. Yna cafodd teulu Sabdi ei ddewis o glan Serach.
18 A pan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal. (Sef Achan fab Carmi, ac ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.)
19 Dyma Josua yn dweud wrth Achan, “Rho glod i'r ARGLWYDD, Duw Israel, a cyffesu iddo. Dywed beth wnest ti. Paid cadw dim yn ôl.”
20 A dyma Achan yn ateb, “Mae'n wir. Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma ddigwyddodd:
21 Gwnes i weld mantell hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Ro'n i eisiau nhw, felly dyma fi'n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi eu claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda'r arian yn y gwaelod.”
22 Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi ei guddio, gyda'r arian o dan popeth arall.
23 Dyma nhw'n cymryd y cwbl o'r babell, a dod ag e at Josua a pobl Israel, a'i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD.