22 Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi ei guddio, gyda'r arian o dan popeth arall.
23 Dyma nhw'n cymryd y cwbl o'r babell, a dod ag e at Josua a pobl Israel, a'i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD.
24 Yna dyma Josua a pobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda'i berthnasau a'i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw a'r arian, y fantell, y bar aur, ei feibion a'i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.)
25 Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â'r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddod â trychineb arnat ti!” A dyma pobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes oedd e wedi marw. A dyma nhw'n gwneud yr un peth i'w deulu, ac yna llosgi'r cyrff.
26 Yna codi pentwr mawr o gerrig drosto – mae'n dal yna hyd heddiw.Doedd yr ARGLWYDD ddim wedi gwylltio wedyn. A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef Dyffryn y Drychineb).