6 Dyma Josua yn rhwygo ei ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau.
7 Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â'r bobl yma ar draws yr Afon Iorddonen? Ai er mwyn i'r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni aros yr ochr arall!
8 Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion?
9 Pan fydd y Canaaneaid a pawb arall sy'n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw'n troi yn ein herbyn ni a'n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?”
10 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti'n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna?
11 Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi – wedi dwyn, a dweud celwydd, a cuddio'r pethau gyda'i stwff nhw'u hunain.
12 Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw'n mynd i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio'r pethau hynny.