26 Wnaeth Josua ddim rhoi ei gleddyf i lawr i roi diwedd ar yr ymladd nes roedd pobl Ai i gyd wedi cael eu lladd.
27 Ond cafodd Israel gadw'r anifeiliaid oedd yno, ac unrhyw stwff gwerthfawr roedden nhw am ei gadw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua.
28 Cafodd tref Ai ei llosgi'n ulw gan Josua. Cafodd ei gadael yn domen o adfeilion. Fyddai neb yn gallu byw yno byth eto – ac felly mae hi hyd heddiw!
29 Yna dyma Josua yn crogi brenin Ai, a'i adael yn hongian ar bren nes iddi nosi. Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn tynnu'r corff i lawr, a dyma nhw'n ei daflu wrth giât y dref a codi pentwr mawr o gerrig drosto – mae'n dal yna hyd heddiw.
30 Yna dyma Josua yn codi allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar Fynydd Ebal.
31 (Cododd yr allor yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn yn sgrôl Cyfraith Moses – gyda cerrig heb eu naddu na'u cerfio gydag unrhyw offer haearn.) A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi arni, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
32 Yna, o flaen pobl Israel, dyma Josua yn naddu ar y cerrig gopi o'r Gyfraith ysgrifennodd Moses.