8 Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.”
9 Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl.
10 Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai.
11 Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai.
12 Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai.
13 Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.
14 Yna'r bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe'n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i'r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i'r dref.