10 a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i'r Afon Iorddonen – Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth.
11 Dyma'n harweinwyr ni, a pobl y wlad i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, a gofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi.
12 Roedd y bara yma'n gynnes o'r popty pan wnaethon ni adael ein cartrefi i ddod i'ch cyfarfod chi. Ond bellach mae e wedi sychu a llwydo.
13 A'r hen boteli crwyn yma – roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!”
14 Dyma arweinwyr Israel yn edrych ar y bara, ond wnaethon nhw ddim gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.
15 Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw.
16 Ddeuddydd wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir – pobl leol oedden nhw!