1-2 Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus. (Roedd yn cynnwys yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).