7 Ond dyma bobl Israel yn dweud wrth yr Hefiaid, “Sut ydyn ni'n gwybod nad ydych chi'n dod o'r ardaloedd yma? Allwn ni ddim gwneud cytundeb heddwch gyda chi os ydych chi.”
8 Ond dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.”A dyma Josua yn gofyn iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?”
9 A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn enwog – dŷn ni wedi clywed adroddiadau am beth wnaeth e yn yr Aifft,
10 a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i'r Afon Iorddonen – Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth.
11 Dyma'n harweinwyr ni, a pobl y wlad i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, a gofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi.
12 Roedd y bara yma'n gynnes o'r popty pan wnaethon ni adael ein cartrefi i ddod i'ch cyfarfod chi. Ond bellach mae e wedi sychu a llwydo.
13 A'r hen boteli crwyn yma – roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!”