1 Yr adeg honno, dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Nadd ddwy lechen fel y rhai cyntaf, a thyrd i fyny ataf i'r mynydd; gwna hefyd arch bren.
2 Fe ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a ddrylliaist; yna gosod di hwy yn yr arch.”
3 Gwneuthum arch o goed acasia, a naddu dwy lechen fel y rhai cyntaf, a mynd i fyny i'r mynydd gyda'r llechau yn fy nwylo.
4 Ac yna, yn union fel y gwnaeth y tro cyntaf, fe ysgrifennodd yr ARGLWYDD ar y llechau y deg gorchymyn a lefarodd wrthych o ganol y tân ar y mynydd ar ddydd y cynulliad, ac fe'u rhoddodd imi.
5 Wedi hyn deuthum i lawr o'r mynydd, a gosodais y llechau yn yr arch a wneuthum, ac y maent yno, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD imi.
6 Teithiodd yr Israeliaid o ffynhonnau'r Jaacaneaid i Mosera. Bu Aaron farw yno, ac yno y claddwyd ef; a daeth Eleasar ei fab yn offeiriad yn ei le.