Deuteronomium 20 BCN

Rhyfel Sagral

1 Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid â'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.

2 Wrth iti ddynesu i'r frwydr, y mae'r offeiriaid i ddod ymlaen ac annerch y fyddin,

3 a dweud wrthynt, “Gwrandewch, Israel, yr ydych ar fin ymladd brwydr yn erbyn eich gelynion; peidiwch â gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt,

4 oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu.”

5 Yna bydd y swyddogion yn annerch ac yn dweud wrth y fyddin, “Pwy bynnag sydd wedi adeiladu tŷ newydd ond heb ei gysegru, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei gysegru.

6 A phwy bynnag sydd wedi plannu gwinllan ond heb fwynhau ei ffrwyth, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei fwynhau.

7 A phwy bynnag sydd wedi dyweddïo â merch ond heb ei phriodi, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei phriodi.”

8 Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, “Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei ôl adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd.”

9 Wedi i'r swyddogion orffen annerch y fyddin, byddant yn gosod capteiniaid dros luoedd y fyddin.

10 Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi.

11 Os derbyniant y telerau heddwch ac agor y pyrth iti, yna bydd pawb a geir ynddi yn gweithio iti dan lafur gorfod.

12 Os na dderbyniant delerau heddwch, ond dechrau rhyfela yn dy erbyn, yna gwarchae ar y dref;

13 a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi yn dy law, lladd bob gwryw ynddi â'r cleddyf.

14 Ond cymer yn anrhaith y gwragedd, y plant, yr anifeiliaid a phopeth arall o ysbail sydd yn y dref; defnyddia i ti dy hun yr ysbail oddi wrth d'elynion y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi iti.

15 Dyna sut y gwnei i'r holl drefi sydd ymhellach oddi wrthyt na rhai'r cenhedloedd gerllaw.

16 Nid wyt i arbed unrhyw greadur byw yn ninasoedd y bobloedd hynny y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti'n etifeddiaeth.

17 Yr wyt i lwyr ddifodi'r Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw,

18 rhag iddynt dy ddysgu i wneud yr holl ffieidd-dra a wnânt hwy er mwyn eu duwiau, ac i ti bechu yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw.

19 Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid â difa ei choed trwy eu torri â bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid â'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn?

20 Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34