Deuteronomium 16 BCN

Y Pasg

1 Yr wyt i gadw mis Abib a dathlu Pasg i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd ym mis Abib y daeth ef â thi o'r Aifft liw nos.

2 Yr wyt i aberthu offrwm Pasg i'r ARGLWYDD dy Dduw o'th ddefaid neu o'th wartheg, yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

3 Nid wyt i fwyta gydag ef ddim wedi ei lefeinio; ond am saith diwrnod yr wyt i fwyta bara croyw, bara cystudd, oherwydd ar frys y daethost allan o wlad yr Aifft. Gwna hyn er mwyn iti gofio tra byddi byw y dydd y daethost allan o wlad yr Aifft.

4 Ni chaniateir surdoes o fewn dy holl derfynau am saith diwrnod, ac nid oes dim o'r cig a leddaist gyda'r hwyr ar y dydd cyntaf i aros tan y bore.

5 Ni chei ladd offrwm y Pasg o fewn yr un o'r trefi y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti,

6 ond yn unig yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. Yno yr wyt i ladd offrwm y Pasg gyda'r hwyr, ar fachlud haul, yr amser y daethost allan o'r Aifft.

7 Byddi'n ei ferwi a'i fwyta yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; yna yn y bore byddi'n troi'n ôl ac yn dychwelyd adref.

8 Am chwe diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ond ar y seithfed dydd bydd cynulliad terfynol i'r ARGLWYDD dy Dduw; nid wyt i wneud dim gwaith arno.

Gŵyl yr Wythnosau

9 Yr wyt i gyfrif saith wythnos, gan ddechrau o'r diwrnod cyntaf y rhoddir y cryman yn yr ŷd.

10 Yna byddi'n dathlu gŵyl yr Wythnosau i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan roi offrwm gwirfodd drosot dy hun yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi dy fendithio.

11 Byddi'n llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad sydd yn dy drefi a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd gyda thi, yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

12 Cofia mai caethwas fuost ti yn yr Aifft, a bydd yn ofalus i gadw'r rheolau hyn.

Gŵyl y Pebyll

13 Yr wyt i gadw gŵyl y Pebyll am saith diwrnod wedi iti gasglu cynnyrch dy lawr dyrnu a'th winwryf;

14 a byddi'n llawenhau ar dy ŵyl, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd yn dy drefi.

15 Am saith diwrnod y byddi'n cadw gŵyl i'r ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl gynnyrch ac ym mhopeth a wnei, a byddi'n wirioneddol lawen.

16 Teirgwaith y flwyddyn y mae dy holl wrywod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, sef ar ŵyl y Bara Croyw, ar ŵyl yr Wythnosau ac ar ŵyl y Pebyll. Nid yw neb i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD yn waglaw,

17 ond dylai pob un roi yn ôl ei allu, yn ôl y fendith a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

Gweinyddu Barn

18 Yr wyt i benodi barnwyr a phenaethiaid ym mhob un o'r trefi a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i'th lwythau, ac y maent i farnu'r bobl yn gyfiawn.

19 Nid wyt i wyro barn na dangos ffafriaeth; nid wyt i gymryd llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu llygaid y doeth ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.

20 Cyfiawnder yn unig a ddilyni, er mwyn iti gael byw ac etifeddu'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw am ei rhoi iti.

Eilunaddoliaeth

21 Paid â phlannu unrhyw fath o bren Asera gerllaw yr allor a godi i'r ARGLWYDD dy Dduw.

22 A phaid â chodi un o'r colofnau sy'n atgas gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34