Deuteronomium 34 BCN

Marw Moses

1 Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled â Dan,

2 holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fôr y gorllewin;

3 yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled â Soar.

4 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, ‘Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.’ Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno.”

5 Ac yno yng ngwlad Moab y bu farw Moses gwas yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

6 Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn â Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn.

7 Yr oedd Moses yn gant ac ugain oed pan fu farw; nid oedd ei lygad wedi pylu, na'i ynni wedi pallu.

8 Wylodd yr Israeliaid am Moses yn rhosydd Moab am ddeg diwrnod ar hugain; yna daeth cyfnod yr wylo a'r galaru i ben.

9 Yr oedd Josua fab Nun yn llawn o ysbryd doethineb, oherwydd yr oedd Moses wedi gosod ei ddwylo arno; felly gwrandawodd yr Israeliaid arno yntau, a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

10 Ni chododd yn Israel byth wedyn broffwyd tebyg i Moses, un yr oedd yr ARGLWYDD yn ei adnabod wyneb yn wyneb,

11 ac un a anfonodd i gyflawni'r holl arwyddion ac argoelion yng ngwlad yr Aifft, yn erbyn Pharo a'i holl weision a'r wlad i gyd.

12 Ni fu neb mor gadarn ei allu, ac ni fu un a wnaeth yr holl weithredoedd dychrynllyd a wnaeth Moses yng ngolwg Israel gyfan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34