Deuteronomium 33 BCN

Bendith Moses

1 Dyma'r fendith ar blant Israel a gyhoeddodd Moses gŵr Duw, cyn ei farw:

2 Cododd yr ARGLWYDD o Sinaia gwawriodd arnynt o Seir;disgleiriodd o Fynydd Parana dod â myrddiynau o Cades,o'r de, o lethrau'r mynyddoedd.

3 Yn ddiau, y mae'n caru ei bobl,a'i holl saint sydd yn ei law;plygant yn isel wrth ei draeda derbyn ei ddysgeidiaeth,

4 y gyfraith a orchmynnodd Moses inni,yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.

5 Gwnaed ef yn frenin ar Jesurunpan ymgasglodd penaethiaid y bobl,a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.

6 Bydded Reuben fyw, ac nid marw,ond na foed ei dylwyth yn niferus.

7 A dyma a ddywedodd am Jwda:Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda,a dwg ef at ei bobl;â'i ddwylo yr ymdrechodd—ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.

8 Dywedodd am Lefi:Rho i Lefi dy Twmim,a'th Wrim i'r un sy'n ffyddlon iti;fe'i profaist yn Massa,a dadlau ag ef wrth ddyfroedd Meriba.

9 Fe ddywed am ei dad a'i fam,“Nid wyf yn eu hystyried”,ac nid yw'n cydnabod ei frodyrnac yn arddel ei blant.Oherwydd bu'n cadw dy airac yn gwarchod dy gyfamod.

10 Y mae'n dysgu dy ddeddfau i Jacoba'th gyfraith i Israel.Y mae'n gosod arogldarth ger dy fron,a'r aberth llwyr ar dy allor.

11 Bendithia, O ARGLWYDD, ei wrhydri,a derbyn waith ei ddwylo.Dryllia lwynau'r rhai sy'n codi yn ei erbyn,ac eiddo'i gaseion, rhag iddynt godi eto.

12 Dywedodd am Benjamin:Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch;bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd,a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.

13 Dywedodd am Joseff:Bydded i'w dir gael ei fendithio gan yr ARGLWYDDâ ffrwyth gorau'r nef, y gwlith,a dŵr o'r dyfnder isod;

14 â chynnyrch gorau'r haul,a thwf gorau'r misoedd;

15 â phrif gynnyrch y mynyddoedd hen,a ffrwythlondeb y bryniau oesol,

16 â gorau'r ddaear a'i llawnder,a ffafr preswylydd y berth.Doed hyn i gyd ar ben Joseff,ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.

17 Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;bydd yn cornio'r bobloedd â hwya'u gyrru hyd eithaf y ddaear.Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,rhai felly fydd miloedd Manasse.

18 Dywedodd am Sabulon:Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,ac Issachar yn dy bebyll.

19 Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.

20 Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.

21 Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.

22 Dywedodd am Dan:Cenau llew yw Dan,yn neidio allan o Basan.

23 Dywedodd am Nafftali:Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,a llawn o fendith yr ARGLWYDD;bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.

24 Dywedodd am Aser:Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,a bod yn ffefryn gan ei frodyr,yn trochi ei droed mewn olew.

25 Bydded dy farrau o haearn a phres,a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.

26 Nid oes tebyg i Dduw Jesurun,sy'n marchogaeth trwy'r nef i'th gynorthwyo,ac ar y cymylau yn ei ogoniant.

27 Duw'r oesoedd yw dy noddfa,ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol.Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen,a dweud, “Difetha ef.”

28 Cafodd Israel fyw yn ddiogel,a Jacob drigo heb ymyrraeth,mewn gwlad o ŷd a gwin,a'i wybrennau'n diferu gwlith.

29 Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg iti,yn bobl a waredir gan yr ARGLWYDD?Ef yw dy darian a'th gymorth,a chleddyf dy orfoledd hefyd.Bydd dy elynion yn ymostwng o'th flaen,a thithau'n sathru ar eu huchel-leoedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34