Deuteronomium 27 BCN

Mynydd Ebal a'r Gyfraith

1 Rhoddodd Moses a henuriaid Israel orchymyn i'r bobl a dweud: “Cadwch y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi heddiw.

2 Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro â chalch.

3 Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych.

4 Wedi ichwi groesi'r Iorddonen, yr ydych i godi'r meini hyn ym Mynydd Ebal a'u plastro â chalch, fel y gorchmynnais ichwi heddiw.

5 Ac yno byddwch yn adeiladu allor i'r ARGLWYDD eich Duw, allor o gerrig heb eu trin ag arf haearn.

6 Â cherrig cyfain y byddwch yn adeiladu'r allor i'r ARGLWYDD eich Duw, i offrymu arni boethoffrymau.

7 Yno hefyd yr aberthwch heddoffrymau a'u bwyta'n llawen gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.

8 Ysgrifennwch yn hollol eglur ar y meini holl eiriau'r gyfraith hon.”

9 Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, “Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw;

10 yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw.”

Melltithion ar Anufudd-dod

11 Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud:

12 “Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.

13 A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”

14 Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel:

15 “Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”

16 “Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

17 “Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

18 “Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

19 “Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

20 “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig i'w dad, oherwydd y mae'n dwyn gwarth ar ei dad.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

21 “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gydag unrhyw anifail.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

22 “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i chwaer, p'run ai merch i'w dad neu ferch i'w fam yw hi.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

23 “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i fam-yng-nghyfraith.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

24 “Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

25 “Melltith ar y sawl sy'n derbyn tâl am ladd dyn dieuog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

26 “Melltith ar unrhyw un nad yw'n ategu holl eiriau'r gyfraith hon trwy eu cadw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34