Deuteronomium 23 BCN

Gwahardd o'r Gynulleidfa

1 Nid yw neb sydd wedi ei sbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.

2 Nid yw bastardyn, na neb o'i ddisgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.

3 Nid yw Ammoniad na Moabiad, na neb o'u disgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD,

4 am na ddaethant i'th gyfarfod â bara a dŵr ar dy ffordd o'r Aifft, ond yn hytrach llogi Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'th felltithio.

5 Er hynny, ni fynnai'r ARGLWYDD dy Dduw wrando ar Balaam, ond troes ef y felltith yn fendith iti am ei fod yn dy garu.

6 Nid wyt i geisio lles na budd iddynt holl ddyddiau d'oes.

7 Nid wyt i ffieiddio Edomiad, oherwydd y mae'n frawd iti; nid wyt i ffieiddio Eifftiwr, oherwydd buost yn alltud yn ei wlad.

8 Caiff eu disgynyddion ar ôl y drydedd genhedlaeth fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.

Cadw'r Gwersyll yn Lân

9 Os byddi'n mynd allan i wersyllu yn erbyn dy elyn, ymgadw rhag pob aflendid.

10 Os bydd rhywun yn aflan oherwydd bwrw had yn ystod y nos, yna y mae i adael y gwersyll a pheidio â dod yn ôl.

11 Gyda'r hwyr y mae i ymolchi â dŵr, a chaiff ddychwelyd i'r gwersyll wedi i'r haul fachlud.

12 Noda le y tu allan i'r gwersyll ar gyfer mynd o'r neilltu;

13 a bydd gennyt raw ymhlith dy offer, a phan fyddi'n mynd o'r neilltu, cloddia dwll a chladdu dy garthion ynddo.

14 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn rhodio trwy ganol y gwersyll i'th waredu a darostwng d'elynion o'th flaen; felly rhaid i'th wersyll fod yn sanctaidd, rhag iddo ef weld dim anweddus yno, a throi i ffwrdd oddi wrthyt.

Amrywiol Ddeddfau

15 Paid â dychwelyd caethwas a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.

16 Gad iddo fyw yn eich mysg yn y fan a fynno, ym mha dref bynnag y mae'n ei dewis; paid â'i orthrymu.

17 Nid yw neb o ferched Israel i fod yn butain y cysegr, na neb o feibion Israel yn buteiniwr y cysegr.

18 Nid yw putain na gwrywgydiwr i ddod â'u tâl i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw i dalu unrhyw adduned, oherwydd y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

19 Nid wyt i godi llog ar un o'th dylwyth am fenthyg arian, na bwyd, na dim arall a roir ar fenthyg.

20 Cei godi llog ar yr estron, ond nid ar un o'th dylwyth, er mwyn iti dderbyn bendith gan yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth y byddi'n ei wneud yn y wlad yr wyt ar ddod i'w meddiannu.

21 Os byddi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD dy Dduw, paid ag oedi cyn ei chyflawni; bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'i hawlio gennyt, a byddi dithau yn euog o bechod.

22 Pe bait heb addunedu, ni fyddet yn euog.

23 Gwylia beth a ddaw allan o'th enau, a chyflawna d'addewid i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan mai o'th wirfodd yr addewaist.

24 Os byddi'n mynd trwy winllan dy gymydog, cei fwyta dy wala o'r grawnwin, ond paid â rhoi dim yn dy fasged.

25 Os byddi'n mynd trwy gae ŷd dy gymydog, cei dynnu tywysennau â'th law, ond paid â gosod cryman yn ŷd dy gymydog.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34