Deuteronomium 18 BCN

Cyfran yr Offeiriaid

1 Ni fydd gan yr offeiriaid o Lefiaid, na neb o lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth gydag Israel. Yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD a fwyteir ganddynt fydd eu hetifeddiaeth.

2 Ni fydd ganddynt etifeddiaeth ymhlith eu cymrodyr; yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd wrthynt.

3 Dyma fydd hawl yr offeiriaid oddi wrth y bobl sy'n offrymu aberth, p'run ai eidion ynteu dafad: dylid rhoi i'r offeiriad yr ysgwydd, y ddwy foch a'r cylla.

4 Yr wyt i roi iddo flaenffrwyth dy ŷd, dy win newydd a'th olew, a'r cnu cyntaf wrth gneifio dy ddefaid;

5 oherwydd allan o'th holl lwythau dewisodd yr ARGLWYDD dy Dduw ef a'i ddisgynyddion i sefyll a gwasanaethu yn enw'r ARGLWYDD am byth.

6 Os bydd Lefiad, sy'n aros yn unrhyw un o'ch trefi trwy Israel gyfan, yn dod o'i wirfodd i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,

7 caiff wasanaethu yn enw'r ARGLWYDD ei Dduw ymysg ei gyd-Lefiaid sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yno.

8 Caiff ran gyfartal i'w bwyta, heblaw'r hyn a gaiff o eiddo'i deulu.

Rhybuddion rhag Arferion Paganaidd

9 Pan fyddi wedi dod i'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti, paid â dysgu gwneud yn ôl arferion ffiaidd y cenhedloedd hynny.

10 Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,

11 arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.

12 Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.

13 Yr wyt i fod yn ddi-fai gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.

Yr Addewid i Anfon Proffwyd

14 Y mae'r cenhedloedd yr wyt yn eu disodli yn gwrando ar ddewiniaid a hudolwyr; ond nid yw'r ARGLWYDD dy Dduw yn caniatáu hyn i ti.

15 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn codi o blith dy gymrodyr broffwyd fel fi, ac arno ef yr wyt i wrando,

16 oherwydd dyna oedd dy ddeisyfiad gan yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb ar ddydd y cynulliad, pan ddywedaist, “Nid wyf am glywed llais yr ARGLWYDD fy Nuw rhagor, na gweld eto y tân mawr hwn, rhag imi farw.”

17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Y mae'r hyn a ddywedant yn iawn;

18 codaf iddynt o blith eu cymrodyr broffwyd fel ti, a rhof fy ngair yn ei enau, er mwyn iddo fynegi iddynt y cwbl y byddaf yn ei orchymyn iddo.

19 A phwy bynnag fydd heb wrando ar fy ngeiriau, y bydd y proffwyd wedi eu llefaru yn f'enw, bydd yn atebol i mi am hynny.

20 Ond am y proffwyd fydd yn rhyfygu llefaru yn f'enw air nad wyf fi wedi ei orchymyn, neu sy'n llefaru yn enw duw arall, y mae'r proffwyd hwnnw i farw.”

21 Os wyt yn gofyn i ti dy hun sut y mae adnabod y gair nad yw'r ARGLWYDD wedi ei lefaru:

22 beth bynnag y bydd proffwyd yn ei lefaru yn enw'r ARGLWYDD, a hwnnw heb ei gyflawni na'i wireddu, y mae hwnnw yn air nad yw'r ARGLWYDD wedi ei lefaru; mewn rhyfyg y bu i'r proffwyd ei lefaru; paid â'i ofni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34