1 Yr ydych i garu'r ARGLWYDD eich Duw a chadw ei ofynion, ei ddeddfau, ei gyfreithiau a'i orchmynion bob amser.
2 Gwyddoch chwi heddiw am ddisgyblaeth yr ARGLWYDD eich Duw, ond nid yw eich plant wedi ei brofi ef na'i weld, nac ychwaith ei fawredd, ei law gadarn a'i fraich estynedig; yr ydych chwi heddiw i'w cofio.
3 Gwyddoch am ei arwyddion a'i weithredoedd a wnaeth ymhlith yr Eifftiaid, i'r Brenin Pharo ac i'w holl wlad,
4 hefyd yr hyn a wnaeth i fyddin yr Aifft, ei meirch a'i cherbydau, pan barodd i ddyfroedd y Môr Coch lifo drostynt wrth iddynt eich ymlid, ac iddo'u difa hyd y dydd hwn.
5 Gwyddoch hefyd yr hyn a wnaeth er eich mwyn yn yr anialwch nes ichwi ddod i'r lle hwn,