15 rhof laswellt yn eich meysydd ar gyfer eich gwartheg, a chewch fwyta'ch gwala.
16 Gwyliwch rhag ichwi gael eich arwain ar gyfeiliorn, a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli.
17 Os felly, bydd dicter yr ARGLWYDD yn llosgi yn eich erbyn; bydd yn cau y nefoedd, fel na cheir glaw, ac ni fydd y tir yn rhoi ei gynnyrch, ac yn fuan byddwch chwithau'n darfod o'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD ar fin ei rhoi ichwi.
18 Am hynny gosodwch y geiriau hyn yn eich calon ac yn eich enaid, a'u rhwymo'n arwydd ar eich llaw, ac yn rhactalau rhwng eich llygaid.
19 Dysgwch hwy i'ch plant, a'u crybwyll wrth eistedd yn y tŷ ac wrth gerdded ar y ffordd, wrth fynd i orwedd ac wrth godi;
20 ysgrifennwch hwy ar byst eich tai ac yn eich pyrth,
21 er mwyn i'ch dyddiau chwi a'ch plant amlhau yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt, tra bo nefoedd uwchlaw daear.