4 hefyd yr hyn a wnaeth i fyddin yr Aifft, ei meirch a'i cherbydau, pan barodd i ddyfroedd y Môr Coch lifo drostynt wrth iddynt eich ymlid, ac iddo'u difa hyd y dydd hwn.
5 Gwyddoch hefyd yr hyn a wnaeth er eich mwyn yn yr anialwch nes ichwi ddod i'r lle hwn,
6 a'r hyn a wnaeth i Dathan ac Abiram, meibion Eliab fab Reuben, pan agorodd y ddaear ei safn yng nghanol Israel gyfan a'u llyncu hwy a'u teuluoedd, eu pebyll a'r holl eiddo oedd yn perthyn iddynt.
7 Fe welsoch chwi â'ch llygaid eich hunain yr holl weithredoedd mawr a wnaeth yr ARGLWYDD.
8 Yr ydych i gadw pob gorchymyn yr wyf fi yn ei roi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fod yn ddigon cryf i fynd i mewn ac etifeddu'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu;
9 a hefyd er mwyn estyn eich oes yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt hwy a'u disgynyddion, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Yn wir, nid yw'r wlad yr ydych ar ddod iddi i'w meddiannu yn debyg i wlad yr Aifft y daethoch allan ohoni, lle'r oeddech yn hau eich had ac yn ei ddyfrhau â'ch troed, fel gardd lysiau.