8 Yr ydych i gadw pob gorchymyn yr wyf fi yn ei roi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fod yn ddigon cryf i fynd i mewn ac etifeddu'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu;
9 a hefyd er mwyn estyn eich oes yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt hwy a'u disgynyddion, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Yn wir, nid yw'r wlad yr ydych ar ddod iddi i'w meddiannu yn debyg i wlad yr Aifft y daethoch allan ohoni, lle'r oeddech yn hau eich had ac yn ei ddyfrhau â'ch troed, fel gardd lysiau.
11 Ond y mae'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu yn wlad o fynyddoedd a dyffrynnoedd, yn yfed dŵr o law y nefoedd.
12 Tir y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano yw hwn, a'i lygaid yn wastad arno o ddechrau blwyddyn i'w diwedd.
13 Ac os byddwch yn gwrando o ddifrif ar fy ngorchmynion, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, i garu'r ARGLWYDD eich Duw a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
14 yna byddaf yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer eich tir yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddwch yn medi eich ŷd, eich gwin newydd a'ch olew;