17 Ni chei fwyta yn dy drefi dy ddegwm o ŷd, nac o win newydd nac o olew, na chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, na dim sydd wedi ei addunedu gennyt, na'th offrymau gwirfodd, na'th gyfraniadau.
18 Rhaid iti fwyta'r rheini gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, yn y man y bydd ef yn ei ddewis; dyna a wnei di, dy fab, dy ferch, dy was, dy forwyn, a'r Lefiaid sydd yn dy drefi, a llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth a wnei.
19 Gwylia rhag esgeuluso'r Lefiaid tra byddi byw yn dy dir.
20 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn helaethu dy derfynau yn ôl ei addewid iti, a chwant bwyd yn dod arnat a thithau'n dweud, “Yr wyf am fwyta cig”, cei fwyta faint a fynni.
21 Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni.
22 Cei fwyta ohono fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân fel ei gilydd ei fwyta.
23 Ond gofalwch beidio â bwyta'r gwaed, oherwydd y gwaed yw'r bywyd, ac nid wyt i fwyta'r bywyd gyda'r cig.