1 Plant i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi; peidiwch â'ch archolli eich hunain na gwneud eich talcen yn foel dros y marw.
2 Pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi o holl bobloedd y byd i fod yn bobl arbennig iddo'i hun.
3 Nid ydych i fwyta dim ffiaidd.
4 Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr,
5 carw, ewig, iwrch, gafr wyllt, gafr hirgorn, gafrewig a hydd.