17 y pelican, y fwltur mawr, y fulfran,
18 y ciconia ac unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.
19 Y mae unrhyw bryf adeiniog yn aflan i chwi; nid ydych i'w fwyta.
20 Cewch fwyta unrhyw beth adeiniog glân.
21 Peidiwch â bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch â berwi myn yn llaeth ei fam.
22 Bob blwyddyn gofala ddegymu holl gynnyrch dy had sy'n tyfu yn dy faes.
23 Yr wyt i fwyta dy ddegwm o ŷd, gwin ac olew, a chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, er mwyn iti ddysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw bob amser.