4 Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr,
5 carw, ewig, iwrch, gafr wyllt, gafr hirgorn, gafrewig a hydd.
6 Cewch fwyta pob anifail sy'n hollti'r ddau ewin ac yn eu fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil.
7 Ond nid ydych i fwyta'r rhai sy'n cnoi cil yn unig neu'n hollti'r ewin fforchog yn unig, sef camel, ysgyfarnog, broch; am eu bod yn cnoi cil ond heb fforchi'r ewin y maent yn aflan ichwi.
8 Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin, heb gnoi cil; y mae'n aflan i chwi. Nid ydych i fwyta'u cig, na chyffwrdd â'u cyrff.
9 O'r holl greaduriaid sy'n byw mewn dŵr, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen.
10 Ond popeth sydd heb esgyll na chen, ni chewch ei fwyta; y mae'n aflan i chwi.