1 Ar ddiwedd pob saith mlynedd yr wyt i ddileu dyledion.
2 Dyma sut y gwneir hynny: bydd pob echwynnwr yn dileu pob dyled sy'n ddyledus iddo, heb bwyso am ad-daliad oddi wrth gymydog na pherthynas, pan gyhoeddir yn enw'r ARGLWYDD ei bod yn bryd dileu dyledion.
3 Cei bwyso am ad-daliad gan estron, ond yr wyt i ddileu beth bynnag sy'n ddyledus iti gan dy berthynas.
4 Ni fydd byth dlotyn yn eich plith, oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'th fendithio yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth,