10 Rho'n hael iddo, heb warafun yn dy galon wrth roi, ac oherwydd hyn bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl waith ac ym mhopeth a wnei.
11 Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad.
12 Os gwerthir iti gydwladwr, boed ddyn neu ddynes, a hwnnw'n dy wasanaethu am chwe blynedd, yr wyt i'w ryddhau yn y seithfed flwyddyn.
13 A phan fyddi'n ei ryddhau, paid â'i anfon i ffwrdd yn waglaw;
14 rho iddo gynhysgaeth hael o'th ddefaid a'th lawr dyrnu a'th winwryf, fel y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio di.
15 Cofia mai caethwas fuost tithau yng ngwlad yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy waredu. Dyna pam yr wyf yn gorchymyn hyn iti heddiw.
16 Ond os dywed dy was wrthyt na fyn ymadael â thi am ei fod yn hoff ohonot ti a'th deulu, a'i bod yn dda arno gyda thi,