13 Bydd y bobl i gyd yn clywed, a daw ofn arnynt, ac ni ryfygant mwyach.
14 Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a'i meddiannu a byw ynddi, ac yna dweud, “Yr wyf am gymryd brenin, fel yr holl genhedloedd o'm hamgylch”,
15 yna'n wir cei gymryd y brenin y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; ond un o blith dy frodyr yr wyt i'w gymryd yn frenin; ni elli ddewis dyn estron nad yw o blith dy frodyr.
16 Nid yw'r brenin i amlhau meirch iddo'i hun, nac i yrru ei bobl yn ôl i'r Aifft er mwyn hynny, gan fod yr ARGLWYDD wedi eich gwahardd rhag dychwelyd ar hyd y ffordd honno.
17 Ac nid yw i luosogi gwragedd, rhag i'w galon fynd ar gyfeiliorn, nac i amlhau arian ac aur yn ormodol.
18 Pan ddaw i eistedd ar orsedd ei deyrnas, y mae i arwyddo copi iddo'i hun o'r gyfraith hon mewn llyfr yng ngŵydd yr offeiriaid o Lefiaid.
19 A bydd hwnnw ganddo i'w ddarllen holl ddyddiau ei fywyd, er mwyn iddo ddysgu ofni'r ARGLWYDD ei Dduw a chadw holl eiriau'r gyfraith hon, a gwneud yn ôl y rheolau hyn,