1 Yna troesom a mynd i'r anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyf, a buom yn teithio o gwmpas mynydd-dir Seir am ddyddiau lawer.
2 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
3 “Yr ydych wedi teithio'n ddigon hir o gwmpas y mynydd-dir hwn; trowch yn awr i'r gogledd.
4 Gorchymyn i'r bobl a dweud wrthynt, ‘Yr ydych yn mynd i deithio trwy diriogaeth eich perthnasau, tylwyth Esau, sy'n byw yn Seir.