13 A dywedodd yr ARGLWYDD, “Yn awr paratowch i groesi nant Sared.” Felly aethom dros nant Sared.
14 Cymerodd ddeunaw mlynedd ar hugain inni deithio o Cades-barnea nes croesi nant Sared; erbyn hynny yr oedd y cyfan o genhedlaeth y rhyfelwyr wedi darfod o'r gwersyll, fel y tyngodd yr ARGLWYDD wrthynt.
15 Yn wir yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn eu herbyn, i'w difa'n llwyr o'r gwersyll.
16 Wedi marw y cyfan o'r rhyfelwyr o blith y bobl,
17 dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
18 “Heddiw yr wyt i groesi terfyn Moab yn ymyl Ar.
19 Pan ddoi at ffin yr Ammoniaid, paid â'u cythruddo na'u bygwth, oherwydd ni roddaf feddiant o'u tir i ti, am fy mod wedi ei roi yn feddiant i dylwyth Lot.”