15 Yn wir yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn eu herbyn, i'w difa'n llwyr o'r gwersyll.
16 Wedi marw y cyfan o'r rhyfelwyr o blith y bobl,
17 dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
18 “Heddiw yr wyt i groesi terfyn Moab yn ymyl Ar.
19 Pan ddoi at ffin yr Ammoniaid, paid â'u cythruddo na'u bygwth, oherwydd ni roddaf feddiant o'u tir i ti, am fy mod wedi ei roi yn feddiant i dylwyth Lot.”
20 (Ystyrid hwn hefyd yn dir y Reffaim, am mai'r Reffaim oedd yn byw yno yn yr amser gynt, ond yr oedd yr Ammoniaid yn eu galw'n Samsumim.
21 Yr oeddent hwy yn ddynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim; ond fe ddifawyd y Reffaim gan yr ARGLWYDD, a chymerodd yr Ammoniaid feddiant o'u tir, a byw yno.