21 Yr oeddent hwy yn ddynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim; ond fe ddifawyd y Reffaim gan yr ARGLWYDD, a chymerodd yr Ammoniaid feddiant o'u tir, a byw yno.
22 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr un fath i feibion Esau oedd yn byw yn Seir, pan ddifaodd yr Horiaid o'u blaen, a chymerasant hwythau feddiant o'u tir, a byw yno hyd heddiw.
23 Y Cafftorim a ymfudodd o Cafftor a ddifaodd yr Afiaid oedd yn byw yn y pentrefi yn ymyl Gasa, ac yna byw yn eu tiriogaeth.)
24 “Cychwynnwch yn awr ar eich taith, a chroeswch nant Arnon. Edrych, yr wyf yn rhoi Sihon yr Amoriad, brenin Hesbon, a'i wlad yn dy law. Dos ati i'w meddiannu, ac ymosod arno.
25 Heddiw fe ddechreuaf wneud i'r holl bobloedd dan y nefoedd ofni ac arswydo o'th flaen; pan glywant sôn amdanat, byddant yn crynu ac yn arswydo o'th flaen.”
26 Yna anfonais negeswyr o anialwch Cedemoth at Sihon brenin Hesbon gyda geiriau heddychlon,
27 “Gad imi deithio trwy dy dir ar hyd y briffordd; fe deithiaf arni heb droi i'r dde na'r chwith.